Gwyliwch y Sgamwyr - Ebost gan AOL? Sbiwch eto!

Diolch i un o Gyfeillion Crwstech a wnaeth basio mlaen yr ebost yma. Mi roedd wedi ei anfon gan berson gyda ebost AOL ac mae'r cynnwys yn ymwneud gyda gwasanaeth sydd yn mynd i stopio gweithio os nad ydych yn clicio'r botwm i dderbyn y newid.
GWILIWCH Y SGAMWYR
Be am edrych am gliwiau.
Ebost gan @aol.com ond ddim yn ebost swyddogol (wedi ei guddio ganddom)
Wrth rhoi y pwntydd drost y doleni yn yr ebost maen't i gyd yn mynd i un dudalen we.
Dim dolen i dudalen AOL ond i http://****.weebly.com

Tydi'r dudlaen ddim yn edrych fel tudalen gan y cwmni aol
Edrychwch yn ofalus ar y llythyren W yn y gair password
Roedd ein cyfeillion yn gywir i ofyn am gyngor gan Crwstech i weld os oedd yr ebost yn un cywir. Byddwch yn ofalus gyda pob ebost yr ydych yn ei dderbyn, chwiliwch am y cliwiau, gwnewch yn siwr bod ganddo chi feddalwedd diogelwch ar bob peiriant ac gwnewch y diweddariadau ar eich System Gweithredol.
Pa feddalwedd diogelwch y byddwn ni yn ei ddefnyddio?
Ewch yma i ddarganfod https://www.crwstech.com/gwrth-feirws